SL(5)158 - Rheoliadau Modrwyo Adar Penodol a Fridiwyd mewn Caethiwed (Cymru a Lloegr) 2017

Cefndir a diben

Gwnaed y Rheoliadau hyn at ddibenion adran 6(5)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Deddf 1981). Maent yn gweithredu rhwymedigaethau penodol o dan Erthyglau 2, 5 a 6 o Gyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cadwraeth adar gwyllt.  Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer modrwyo’r adar a fridiwyd mewn caethiwed a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 1981.

Mae Rheoliad 2 yn nodi'r gofynion ar gyfer modrwyo adar yn dibynnu ar ble y mae'r aderyn yn deori. Mae Atodlen 1 yn nodi'r meintiau modrwyon mwyaf a ganiateir ar gyfer y rhywogaethau a restrir.

Mae Rheoliad 3 yn dirymu Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Modrwyo Adar Penodol) 1982.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt adrodd i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) oherwydd bod yr offeryn hwn wedi'i wneud yn Saesneg yn unig.

Craffu ar y rhinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae Deddf 1981 yn trosi Cyfarwyddeb 2009/147/EC ynghylch cadwraeth adar gwyllt (Y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt) i'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr.

Mae manylu'r modrwyon mwyaf a ganiateir yn safon dechnegol o fewn cwmpas Cyfarwyddeb Safonau Technegol yr UE. Mae'r Rheoliadau wedi'u hysbysu mewn drafft i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â Chyfarwyddeb (UE) 2015/1535 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 9 Medi 2015, gan osod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes rheoliadau technegol a'r rheolau ynghylch gwasanaethau'r Gymdeithas Wybodaeth.

Mae'r dadansoddiad a ganlyn yn seiliedig ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o'r Bil, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i gael effaith yng Nghymru o'r diwrnod ymadael ymlaen. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â’r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

Ni fydd y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt yn dod yn rhan o gyfraith ddomestig yn awtomatig ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny o dan y Bil. Fodd bynnag, os yw llys neu dribiwnlys wedi cydnabod, cyn y diwrnod ymadael, fod cyfarwyddeb yr UE yn rhoi hawl i unigolyn y gall yr unigolyn ddibynnu arno a'i gorfodi yn y gyfraith, bydd yr hawl honno'n ffurfio rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny (gweler cymal 4 o'r Bil).

 

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

9 Ionawr 2018